Therapi Electrogynhyrfol (ECT)
Electroconvulsive therapy (ECT)
Below is a Welsh translation of our information resource on electroconvulsive therapy (ECT). You can also view our other Welsh translations.
Ymwadiad
Darllenwch yn ofalus yr ymwadiad sy'n cyd-fynd ? phob cyfieithiad. Mae'n egluro na all y Coleg warantu ansawdd y cyfieithiadau, na'u bod o reidrwydd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf.
Mae’r wybodaeth hon ar gyfer pawb sy’n ystyried therapi electrogynhyrfol (ECT), ynghyd ?’u teuluoedd, eu cyfeillion neu eu gofalwyr.
Cyn dechrau ECT, mae’n bwysig ichi gael gwybodaeth glir. Gobeithio y bydd yr wybodaeth hon yn helpu i roi gwybod ichi am ECT, ac y bydd yn eich cynorthwyo i wneud eich penderfyniad.
Defnyddir therapi electrogynhyrfol (ECT) i drin rhai mathau o salwch meddwl. Fel arfer, caiff ei ystyried pan fydd opsiynau eraill – fel seicotherapi a meddyginiaeth – wedi bod yn aflwyddiannus neu pan fydd rhywun yn s?l iawn ac angen triniaeth frys.
Rhoddir ECT ar ffurf cwrs o driniaethau, fel arfer ddwywaith yr wythnos am 3-7 wythnos. Os byddwch yn cael ECT, byddwch yn cael anaesthetig cyffredinol. Golyga hyn y byddwch ynghwsg tra byddwch yn cael y driniaeth.
Tra byddwch ynghwsg, bydd eich ymennydd yn cael ei ysgogi trwy ddefnyddio pylsiau trydanol byr. Bydd hyn yn achosi ffit dan reolaeth a fydd, fel arfer, yn para oddeutu 30-40 eiliad. Yn ogystal ag anaesthetig, byddwch yn cael cyffur i ymlacio eich cyhyrau a bydd hynny’n lleihau symudiadau eich corff yn ystod y ffit.
Ar gyfer pa gyflyrau y gellir defnyddio ECT?
Caiff ECT ei ddefnyddio’n fwyaf cyffredin ar gyfer trin iselder cymedrol i ddifrifol nad yw wedi ymateb i driniaethau eraill, neu pan fo angen triniaeth frys. Hefyd, caiff ei ddefnyddio i drin catatonia, sef cyflwr lle gall y claf roi’r gorau i siarad, bwyta neu symud.
O dro i dro, defnyddir ECT i drin pobl ag anhwylder deubegynol pan f?nt mewn cyflwr manig neu gymysg. Weithiau, cynigir ECT i bobl ? sgitsoffrenia pan na fo’u symptomau wedi gwella ar ?l cael triniaethau eraill.
Ni chaiff ECT ei argymell ar gyfer trin anhwylderau gorbryder na’r mwyafrif o gyflyrau seiciatrig, ac eithrio’r rhai a restrir uchod.
Pryd y gallai fy meddyg awgrymu ECT?
Efallai yr awgrymir ECT yn yr amgylchiadau canlynol:
- os yw eich cyflwr yn bygwth eich bywyd ac os ydych angen gwella’n gyflym er mwyn atal niwed i’ch iechyd
- os yw eich cyflwr yn achosi llawer iawn o drallod ichi
- os nad yw eich cyflwr wedi ymateb i driniaethau eraill, fel meddyginiaeth a therapi seicolegol
- os yw eich cyflwr wedi ymateb yn dda i ECT yn y gorffennol.
Pa mor effeithiol yw ECT?
Yn ?l meddygon sy’n rhoi triniaeth ECT i bobl, mae symptomau’r mwyafrif o bobl yn gwella.
Yn ?l data sy’n deillio o 2023 ac sy’n ymwneud ? phobl a gafodd ECT:
- fe wnaeth 67% (neu 67 unigolyn o blith 100) wella’n fawr, neu wella’n fawr iawn, ar ?l cael y driniaeth
- fe wnaeth 1% (neu 1 unigolyn o blith 100) waethygu’n fawr, neu waethygu’n fawr iawn, ar ?l cael y driniaeth.
Trin iselder
Dengys tystiolaeth fod ECT yn fwy llwyddiannus na thriniaethau eraill y’i cymharwyd ? nhw o ran trin iselder difrifol iawn, yn cynnwys:
- gwrthiselyddion
- triniaethau niwrofodylu, megis ysgogiad magnetig trawsgreuanol ailadroddus (rTMS).
Hefyd, dengys tystiolaeth fod ECT yn fwy effeithiol na phlasebos. Pan fydd pobl yn cael plasebo, byddant yn cael sylwedd neu driniaeth na fydd yn cael unrhyw effaith gorfforol arnynt; y bwriad wrth wraidd hyn yw profi effeithiolrwydd triniaethau newydd.
Mae risg hunanladdiad yn is ymhlith pobl sydd wedi cael ECT o gymharu ? phobl ? symptomau tebyg nad ydynt yn cael ECT.
Aros yn iach
Gall ECT helpu pobl s?l iawn i wella digon er mwyn eu galluogi i gael triniaethau o fath arall. Gall hyn eu helpu i aros yn iach am gyfnodau hwy.
Awgryma gwaith ymchwil fod pobl ag iselder difrifol nad yw wedi gwella gyda meddyginiaeth yn fwy tebygol o wella ac aros yn iach am gyfnod hwy os c?nt ECT.
O blith y bobl hynny a fydd yn gwella ar ?l cael ECT, bydd eu hanner yn aros yn iach am flwyddyn fan leiaf ar ?l eu triniaeth. Mae hyn yn fwy tebygol o ddigwydd pan fydd pobl yn dechrau triniaethau eraill (苍别耻’苍 parhau ? thriniaethau eraill) ar ?l iddynt orffen eu triniaeth ECT, megis gwrthiselyddion neu lithiwm. Hefyd, efallai y gall sesiynau ECT ychwanegol, a gynhelir ymhellach oddi wrth ei gilydd, wella’u siawns o aros yn iach. Ceir rhagor o wybodaeth am sesiynau ECT ychwanegol yn ddiweddarach yn yr adnodd hwn.
Sut y mae ECT yn gweithio?
Mae ECT yn peri i gemegau arbennig gael eu rhyddhau yn yr ymennydd – sef cemegau yr ymddengys eu bod yn ysgogi twf mewn rhai rhannau o’r ymennydd sy’n tueddu i leihau mewn maint gydag iselder. Mae effeithiau ECT yn cynyddu’n raddol gyda phob triniaeth.
Hefyd, ymddengys fod ECT yn newid y modd y mae rhannau o’r ymennydd yn rhyngweithio gyda’i gilydd – sef y rhannau hynny o’r ymennydd sy’n gysylltiedig ag emosiynau. Mae gwaith ymchwil parhaus yn cael ei gynnal yn y maes hwn.
A oes yna wahanol fathau o ECT?
Ceir dau fath gwahanol o ECT, sef:
- ECT dwyochrog
- ECT unochrog.
Bydd modd i’ch meddyg esbonio’r gwahanol fathau a rhoi cyngor ichi yngl?n ? pha un a fyddai’n fwyaf addas i chi.
Mewn triniaethau ECT, mae dau electrod yn anfon pylsiau trydanol ysgogol i’ch ymennydd. Caiff hyn ei wneud naill ai trwy ddefnyddio padlau llaw neu badiau adlynol bach.
Mewn ECT dwyochrog, bydd y pylsiau trydanol ysgogol yn symud ar draws eich pen, fel arfer rhwng eich arleisiau.
Mewn ECT unochrog, bydd y pylsiau trydanol ysgogol yn symud rhwng eich arlais dde a’ch corun.
Mae ECT unochrog dos uchel yr un mor effeithiol ag ECT dwyochrog am drin iselder. Hefyd, mae’n esgor ar lai o effeithiau negyddol ar y cof. Ceir rhagor o wybodaeth am sgil-effeithiau yn ddiweddarach yn yr adnodd hwn.
Er gwaethaf hyn, mae yna rai sefyllfaoedd pan allai arbenigwyr ECT gynghori y dylid defnyddio ECT dwyochrog, er enghraifft:
- wrth drin salwch, ac eithrio iselder, a allai ymateb yn well i ECT dwyochrog
- os ydych yn llaw chwith. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am hyn, siaradwch ?’ch seiciatrydd.
A ellir rhoi triniaeth ECT i blant neu bobl ifanc?
Ni chaiff ECT ei ddefnyddio’n aml ymhlith cleifion dan 18 oed, oherwydd pur anaml y bydd plant a phobl ifanc yn datblygu’r mathau o anhwylderau sy’n ymateb yn dda i ECT. Yn achos y nifer fechan o blant a phobl ifanc sy’n datblygu anhwylderau o’r fath, gall ECT fod yn fuddiol. Bydd angen cael ail farn annibynnol, ffurfiol bob amser cyn y gellir rhoi ECT i gleifion dan 18 oed.
Ble y byddaf yn cael ECT?
Rhoddir triniaethau ECT yn yr ysbyty. Fel arfer, bydd hyn yn cael ei wneud mewn cyfres o ystafelloedd a elwir yn ‘ystafelloedd ECT’. O dro i dro, os na fydd ystafelloedd ECT ar gael, neu os oes gennych broblemau iechyd corfforol sylweddol, efallai y bydd y driniaeth yn cael ei chynnal:
- mewn rhan arall o’r ysbyty
- mewn ysbyty gwahanol lle mae ychwaneg o gymorth wrth law – theatr llawdriniaethau fel arfer
Dylai ystafelloedd ECT gynnwys y canlynol:
- ystafell lle gallwch aros cyn cael y driniaeth
- ystafell lle byddwch yn cael y driniaeth
- ystafell lle gallwch ddod atoch eich hun cyn gadael.
Bydd staff cymwysedig yn gofalu amdanoch drwy’r adeg pan fyddwch yn yr ystafelloedd ECT. Byddant yn ateb unrhyw gwestiynau ac yn delio ag unrhyw bryderon sydd gennych cyn ichi gael y driniaeth. Hefyd, byddant yn eich helpu tra byddwch yn deffro ar ?l yr anaesthetig ac yn syth ar ?l eich triniaeth.
Mae rhai pobl sy’n cael ECT yn gleifion mewnol mewn ysbytai, tra mae pobl eraill yn cael ECT fel cleifion dydd. Os mai claf dydd ydych, bydd yn rhaid i oedolyn cyfrifol penodol ddod gyda chi i mewn ac allan o’r ystafelloedd ECT. Bydd angen i rywun aros gyda chi ar ?l ichi fynd yn ?l adref.
Paratoi ar gyfer ECT
Cyn i’r cwrs ECT ddechrau, bydd eich meddyg yn trefnu ichi gael ambell brawf er mwyn gwneud yn si?r ei bod yn ddiogel ichi gael anaesthetig cyffredinol. Efallai y bydd y profion hyn yn cynnwys cofnodi curiad eich calon (ECG) a phrofion gwaed.
Ni ddylech fwyta nac yfed am o leiaf 6 awr cyn cael ECT, ond efallai y cewch ambell lymaid o dd?r. Pwrpas hyn yw ceisio sicrhau y bydd modd ichi gael yr anaesthetig yn ddiogel.
Os ydych fel arfer yn cymryd meddyginiaeth yn ystod y cyfnod hwn, dylai’r t?m ECT eich cynghori ynghylch a ddylech wneud hynny ai peidio.
Beth fydd yn digwydd ar ddiwrnod y driniaeth ECT?
- Os ydych yn glaf mewnol, bydd un o aelodau staff eich ward yn dod gyda chi i’r ystafelloedd ECT. Dylai’r aelod staff hwnnw wybod am eich salwch a dylai allu esbonio’r hyn sy’n digwydd.
- Mewn nifer o ystafelloedd ECT, bydd modd i gyfaill neu aelod o’ch teulu aros yn yr ystafell aros tra byddwch yn cael eich triniaeth.
- Bydd aelod o’r t?m ECT yn dod atoch ac yn cynnal gwiriadau corfforol cyffredinol (os na fyddant wedi’u cynnal eisoes). Bydd yr aelod staff hwn yn gwneud popeth o fewn ei allu i wneud ichi deimlo’n gysurus.
- Cyn pob triniaeth, bydd cwestiynau’n cael eu gofyn yngl?n ?’ch cof a pha mor dda ydyw.
- Os ydych yn cael ECT yn wirfoddol, bydd y staff yn cadarnhau eich bod yn dal i ddymuno cael y driniaeth a byddant yn gofyn a oes gennych unrhyw gwestiynau pellach.
- Pan fyddwch yn barod, bydd y staff ECT yn mynd ? chi i’r ardal drin.
- Os ydych yn gwisgo sbectol neu gymhorthydd clyw, gofynnir ichi eu tynnu.
- Bydd y staff yn cysylltu offer monitro i fesur curiad eich calon, eich pwysedd gwaed, lefel eich ocsigen a thonnau eich ymennydd.
- Byddwch yn cael ocsigen i’w anadlu trwy fasg.
- Bydd yr anaesthetegydd yn rhoi pigiad anaesthetig mewn gwyth?en yn eich braich neu ar gefn eich llaw.
Beth fydd yn digwydd tra byddaf ynghwsg?
- Tra byddwch ynghwsg, bydd yr anaesthetegydd yn rhoi cyffur ichi ar gyfer ymlacio eich cyhyrau a bydd gard ceg yn cael ei roi yn eich ceg i amddiffyn eich dannedd.
- Bydd yr electrodau’n cael eu gosod ar eich pen a bydd y peiriant ECT yn anfon cyfres o bylsiau trydanol byr i’ch pen, am rhwng un ac wyth eiliad. Bydd hyn yn achosi ffit dan reolaeth a fydd, fel arfer, yn para oddeutu 30-40 eiliad; ond gallai bara hyd at 120 eiliad.
- Bydd eich corff yn mynd yn stiff ac yna bydd yn dechrau plycio; fel arfer, bydd hyn yn digwydd yn eich dwylo, eich traed a’ch wyneb. Bydd yr ymlaciwr cyhyrau yn helpu’n fawr i leihau symudiadau eich corff.
- Bydd dos y pylsiau trydanol yn seiliedig ar y lefel sy’n angenrheidiol i achosi ffit. Bydd eich ymateb yn cael ei fonitro a bydd y dos yn cael ei addasu fel bo’r angen.
Beth fydd yn digwydd ar ?l imi ddeffro?
- Bydd effaith yr ymlaciwr cyhyrau’n diflannu o fewn rhyw ddau funud. Wrth ichi ddechrau deffro, bydd y staff yn mynd ? chi i’r ardal adfer. Yno, bydd nyrs brofiadol yn gofalu amdanoch hyd nes y byddwch wedi deffro’n llwyr.
- Efallai y bydd masg ocsigen am eich wyneb pan fyddwch yn deffro. Gall gymryd peth amser ichi ddeffro’n llwyr ac, ar y dechrau, efallai na fyddwch yn gwybod ble byddwch chi.
- Bydd y nyrs yn gwirio eich pwysedd gwaed ac yn gofyn cwestiynau syml er mwyn gweld pa mor effro ydych chi. Bydd teclyn monitro bach am eich bys fel y gellir mesur faint o ocsigen sydd yn eich gwaed.
- Ar ?l rhyw hanner awr, dylai effeithiau’r anaesthetig ddiflannu a bydd cwestiynau syml yn cael eu gofyn ichi er mwyn gwirio hyn.
- Yna, byddwch yn cael eich symud i’r ardal adfer, lle cewch gynnig lluniaeth ysgafn tra bydd y staff nyrsio’n parhau i’ch monitro a siarad gyda chi.
Pryd y gallaf adael?
Byddwch yn gadael yr ystafelloedd ECT pan fydd y t?m yn fodlon eich bod yn feddygol sefydlog, a phan fyddwch yn teimlo eich bod yn barod i adael. Fel arfer, mae’r holl broses sydd ynghlwm wrth ECT yn cymryd oddeutu awr a hanner.
Fel yn achos pob sefyllfa pan roddir anaesthetig cyffredinol i gleifion, ni ddylech wneud y pethau canlynol o fewn 24 awr i bob triniaeth:
- yfed alcohol
- llofnodi unrhyw ddogfennau cyfreithiol
- gwneud penderfyniadau pwysig.
Dylai oedolyn cyfrifol aros gyda chi am 24 awr.
Pa mor aml, a sawl gwaith, y byddaf yn cael ECT?
Fel arfer, rhoddir ECT ddwywaith yr wythnos, gyda bwlch o ychydig ddyddiau rhwng pob triniaeth. Gall gymryd sawl sesiwn cyn ichi sylwi ar unrhyw welliant.
Nid oes modd rhagweld faint o driniaethau y byddwch eu hangen. Ar gyfartaledd, mae cleifion yn cael oddeutu 10 triniaeth yn ystod eu cwrs. Ond efallai y byddwch yn cael mwy neu lai.
Os na fydd eich iechyd meddwl wedi gwella ar ?l chwe thriniaeth, bydd eich meddyg yn adolygu eich cynllun triniaeth. Dylai drafod yr opsiynau gyda chi. Gallai’r opsiynau hynny gynnwys:
- parhau ?’r un driniaeth
- newid ffurf yr ECT
- rhoi’r gorau i’r ECT.
Bydd eich t?m meddygol yn adolygu eich cynnydd ac unrhyw sgil-effeithiau. Fel arfer, bydd hyn yn cael ei wneud bob wythnos. Byddwch yn cael eich holi am eich cof, a bydd eich cof yn cael ei brofi’n rheolaidd.
Fel arfer, bydd y driniaeth ECT yn dod i ben ar ?l ichi wella’n llwyr, neu os dywedwch nad ydych yn dymuno parhau ?’r driniaeth ac os ydych yn ddigon da i ddeall y penderfyniad hwnnw’n llwyr.
Beth fydd yn digwydd ar ?l cael cwrs o ECT?
Un elfen yn unig o ran eich helpu i wella yw ECT. Fel arfer, byddwch yn parhau ?’ch meddyginiaeth (苍别耻’苍 dechrau meddyginiaeth) ar ?l cael ECT. Bydd hyn yn eich helpu i gynnal y gwelliannau a ddeilliodd o’ch triniaeth ECT.
Efallai y gall therap?au siarad (a elwir hefyd yn seicotherap?au) eich helpu i ddeall y rheswm sydd wrth wraidd eich salwch a’ch helpu i ddatblygu ffyrdd o aros yn iach. Weithiau, gall newidiadau yn eich ffordd feunyddiol o fyw fod yn fuddiol. Er enghraifft:
- ymarfer corff rheolaidd
- deiet cytbwys
- patrwm cysgu rheolaidd
- defnyddio technegau fel ymwybyddiaeth ofalgar a myfyrio.
Efallai y bydd ychwaneg o driniaethau ECT yn cael eu cynnig ichi er mwyn eich atal rhag mynd yn s?l eto. Rydych yn fwy tebygol o gael cynnig triniaethau ychwanegol os aethoch i deimlo’n s?l eto ar ?l cael cwrs o ECT yn y gorffennol. Gelwir hyn yn barhad o ECT 苍别耻’苍 ECT cynnal a chadw, a rhoddir y driniaeth yn anamlach, er enghraifft bob 2-4 wythnos.
Rai wythnosau ar ?l i’ch triniaeth ddod i ben, bydd y seiciatrydd neu’r clinig ECT a drefnodd eich triniaeth yn cysylltu ? chi i holi am eich cof. Os cewch broblemau gyda’ch cof, siaradwch ?’ch seiciatrydd; bydd yn trefnu ichi gael rhagor o brofion os bydd angen.
Gall pob triniaeth feddygol arwain at sgil-effeithiau, yn cynnwys ECT. Gall sgil-effeithiau ECT amrywio o sgil-effeithiau bach i rai difrifol, ac o sgil-effeithiau uniongyrchol i rai hirdymor. Ond dros y blynyddoedd, mae ECT wedi newid a datblygu. Er enghraifft, mae ffurf y trydan a ddefnyddir, a faint ohono a gaiff ei ddefnyddio, wedi newid. Mae hyn wedi lleihau’r tebygolrwydd y bydd cleifion yn dioddef sgil-effeithiau.
Rhoddir ECT dan anaesthetig cyffredinol bob amser. Gall anaesthetig cyffredinol arwain at sgil-effeithiau, ac mae risgiau ynghlwm wrtho. Os bydd yr anaesthetegydd o’r farn na fydd hi’n ddiogel ichi gael anaesthetig, ni fydd modd ichi gael ECT.
Mae marwolaethau sy’n gysylltiedig ? thriniaethau ECT yn eithriadol o brin – maent yn digwydd mewn 1 o bob 50,000-100,000 o driniaethau.
Mae iselder yn salwch difrifol, ac o dro i dro gall achosi marwolaeth yn uniongyrchol 苍别耻’苍 anuniongyrchol os na chaiff ei drin. Mae pobl a dderbynnir i’r ysbyty oherwydd iselder yn llai tebygol o farw ar ?l cael ECT o gymharu ? phe na baent yn cael ECT, a hynny, efallai, gan fod ECT yn helpu pobl i adfer, neu gan fod pobl sy’n cael ECT yn cael mwy o sylw meddygol.
Mae’r risg y bydd cleifion yn dioddef sgil-effeithiau yn cynyddu rhywfaint os bydd angen defnyddio pylsiau ysgogol cryfach. Gellir lleihau’r risg hon trwy ddefnyddio pylsiau trydanol byrrach, ond golyga hyn fod y driniaeth yn llai tebygol o fod yn effeithiol.
Pe baech yn dioddef sgil-effeithiau yn ystod cwrs o ECT, efallai y bydd modd addasu’r driniaeth.
Sgil-effeithiau uniongyrchol
Yn syth ar ?l cael ECT, mae’n gyffredin iawn i gleifion gael cur pen a phoen yn eu cyhyrau.
Mae rhai cleifion yn teimlo’n s?l 苍别耻’苍 cyfogi, ond mae hyn yn llai cyffredin.
Bydd nyrs wrth law tra byddwch yn deffro ar ?l cael ECT. Gall y nyrs roi cyffuriau lladd poen syml ichi, fel paracetamol, neu feddyginiaeth atal salwch os bydd angen.
Yn aml, mae cleifion yn teimlo’n ddryslyd 苍别耻’苍 ffwndrus ar ?l deffro. Fel arfer, bydd hyn yn gwella o fewn 30 munud, ond mae’n tueddu i bara ychydig yn hwy ar ?l ECT dwyochrog o gymharu ag ECT unochrog.
Mewn achosion prin, gall ECT achosi ffit estynedig. Pe bai hynny’n digwydd, byddai’r ffit yn cael ei atal yn syth gan y staff meddygol, trwy ddefnyddio meddyginiaeth.
Sgil-effeithiau byrdymor
Yn aml iawn, caiff cleifion broblemau gyda’u cof byrdymor tra byddant yn cael triniaeth ECT. Er enghraifft, efallai y byddant yn anghofio sgyrsiau a gawsant yn ystod y cyfnod hwnnw. Gall y risg fod yn fwy gydag ECT dwyochrog. Hefyd, mae’r risg yn fwy os bydd angen defnyddio pylsiau ysgogol cryfach.
Ond hefyd, gall mathau o salwch meddwl, fel iselder, effeithio ar y cof ac ar swyddogaethau’r ymennydd. Gelwir y swyddogaethau hyn yn ‘wybyddiaeth’. Rai wythnosau ar ?l cael cwrs o ECT, fel arfer bydd perfformiad cleifion yn y mwyafrif o swyddogaethau gwybyddol cystal, 苍别耻’苍 well, na’u perfformiad cyn cael ECT.
Sgil-effeithiau hirdymor
Nid yw ymchwil wyddonol drylwyr wedi dod o hyd i unrhyw dystiolaeth bod cleifion sydd wedi cael ECT yn dioddef niwed i’r ymennydd. Ni fydd ECT yn cynyddu eich risg o gael str?c neu ddatblygu dementia.
Y sgil-effaith hirdymor fwyaf difrifol a allai ddod i ran cleifion sydd wedi cael ECT yw y gallent anghofio pethau a ddigwyddodd yn eu gorffennol.
Mae nifer fechan o gleifion yn dweud bod ganddynt fylchau yn eu cof mewn perthynas ? phethau a ddigwyddodd cyn iddynt gael ECT. Mae hyn yn tueddu i effeithio ar atgofion sy’n ymwneud ? phethau a ddigwyddodd yn ystod, neu yn fuan cyn dechrau, y driniaeth ECT. Mae problem fel hon gyda’r cof yn fwy tebygol o ddigwydd ar ?l cael ECT dwyochrog yn hytrach nag ECT unochrog. Ar ?l i’r atgofion hyn ddiflannu, go brin y byddant yn dychwelyd.
Beth allai ddigwydd pe na bawn yn cael ECT?
Bydd angen i chi a’ch meddyg gydbwyso’r risg y byddwch yn dioddef sgil-effeithiau oherwydd ECT gyda’r risg sy’n gysylltiedig ? pheidio ? chael ECT. Os na chewch ECT, efallai y byddwch yn fwy tebygol o gael:
- salwch meddwl estynedig a fydd yn amharu arnoch
- salwch corfforol difrifol (a marwolaeth, o bosibl) yn sgil peidio ? bwyta neu yfed
- risg uwch o farw yn sgil hunanladdiad.
Gyrru ac ECT
Os ystyrir defnyddio ECT i drin eich symptomau, mae’n debygol eich bod yn rhy wael i yrru. Dylech ofyn i’ch seiciatrydd a ddylech roi gwybod i’r DVLA am eich cyflwr.
Yn ?l cyngor y DVLA, ni ddylai cleifion yrru tra maent yn cael cwrs o ECT. Ar ?l gorffen y cwrs, mae’n debygol nad ystyrir y byddwch yn abl i yrru am beth amser. Bydd y DVLA, gyda chyngor gan eich meddyg, yn penderfynu pryd y gallwch yrru eto.
Os byddwch yn cael parhad o ECT, neu ECT cynnal a chadw, er mwyn eich helpu i aros yn iach, efallai y bydd modd ichi yrru. Dylech holi eich seiciatrydd. Ond ni ddylech yrru, beicio na defnyddio peiriannau trwm am o leiaf 48 awr ar ?l pob triniaeth ECT.
Cydsynio i gael ECT
Fel yn achos unrhyw driniaeth sylweddol mewn meddygaeth neu lawfeddygaeth, gofynnir am eich cydsyniad, neu eich caniat?d, i gael ECT. Bydd y driniaeth, y rhesymau dros roi’r driniaeth, a’r manteision a’r sgil-effeithiau posibl, yn cael eu hesbonio.
Os penderfynwch fwrw ymlaen, byddwch yn cael ffurflen gydsynio i’w llofnodi. Bydd y ffurflen hon yn cofnodi’r canlynol:
- eich bod wedi cael esboniad o’r driniaeth ECT
- eich bod yn deall yr hyn a fydd yn digwydd
- eich bod yn deall y risgiau a’r manteision
- eich bod yn cydsynio i gael ECT.
Oni bai bod angen rhoi’r driniaeth mewn argyfwng, byddwch yn cael 24 awr o leiaf i feddwl am eich penderfyniad ac i’w drafod gyda’ch perthnasau, eich cyfeillion neu eich cynghorwyr, os dymunwch wneud hynny.
Gallwch dynnu eich cydsyniad yn ?l a gwrthod ECT ar unrhyw adeg, hyd yn oed yn union cyn y driniaeth gyntaf. Dylech gael gwybodaeth yn esbonio eich hawliau yngl?n ? chydsynio i’r driniaeth.
A allaf roi gwybod ymlaen llaw beth yw fy nymuniadau o ran cael ECT?
Os oes gennych farn ynghylch a ydych yn dymuno cael ECT ai peidio, mae’n bwysig ichi ddweud wrth y meddygon a’r nyrsys sy’n gofalu amdanoch. Hefyd, efallai yr hoffech ddweud wrth gyfeillion, perthnasau, neu unrhyw un arall sy’n eich cynorthwyo neu unrhyw un rydych wedi gofyn iddo siarad ar eich rhan. Rhaid i feddygon roi ystyriaeth i’r safbwyntiau hyn pan fyddant yn ystyried a yw ECT er eich lles pennaf ai peidio.
Efallai y bydd rhai pobl yn penderfynu pan f?nt yn iach nad ydynt yn dymuno cael ECT pe baent yn mynd yn s?l eto. Os ydych chi’n teimlo fel hyn, efallai yr hoffech ysgrifennu datganiad yn nodi eich dymuniadau. Gelwir hyn yn ‘benderfyniad ymlaen llaw’ yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, 苍别耻’苍 ‘ddatganiad ymlaen llaw’ yn yr Alban. Dylid dilyn y dymuniadau a nodir yn eich datganiad, ac eithrio mewn amgylchiadau penodol iawn. Mae’r pwnc hwn yn gymhleth ac mae y tu hwnt i gwmpas yr adnodd hwn. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am benderfyniadau ymlaen llaw ar wefan Mind.
Yn achos rhai pobl a gafodd driniaeth ECT, bu’r driniaeth mor fuddiol nes peri iddynt ddewis cofnodi y byddent yn dymuno cael y driniaeth eto yn y dyfodol, hyd yn oed pe baent yn dweud yn wahanol pan fyddent yn s?l.
A ellir rhoi ECT imi heb fy nghaniat?d?
Mae hyn yn ddibynnol ar eich ‘galluedd’. Os oes gennych alluedd, mae hynny’n golygu eich bod yn meddu ar y gallu i wneud eich penderfyniadau eich hun ynghylch rhywbeth.
Os oes gennych alluedd i benderfynu a ydych eisiau ECT ai peidio, ni ellir rhoi ECT ichi heb gael eich cydsyniad llwyr ar sail gwybodaeth.
Ond yn achos pobl s?l iawn, dywedir nad oes ganddynt ddigon o alluedd i wneud penderfyniadau ynghylch ECT. Ni all pobl heb alluedd o’r fath wneud un neu fwy o’r canlynol:
- deall yr wybodaeth a g?nt yngl?n ? natur, pwrpas neu effeithiau ECT
- cofio’r wybodaeth hon
- pwyso a mesur y manteision a’r anfanteision sydd ynghlwm wrth gael ECT
- cyfathrebu eu penderfyniad.
Ceir cyfreithiau yn y DU sy’n galluogi meddygon i wneud penderfyniadau ynghylch rhoi ECT i bobl yn y sefyllfa hon. Mae mesurau diogelu cyfreithiol yn gysylltiedig ?’r cyfreithiau hyn er mwyn sicrhau na roddir y driniaeth ond pan fo hynny’n gwbl angenrheidiol.
Mae hyn yn berthnasol i oddeutu hanner y bobl sy’n cael triniaeth ECT. Mae pobl sy’n cael ECT yn y ffordd hon yn gwneud cynnydd cystal ? phobl y bu modd iddynt gydsynio i’r driniaeth.
Cyn pob triniaeth ECT, bydd eich galluedd yn cael ei asesu. Os bydd symptomau eich salwch meddwl yn gwella ac os byddwch yn adennill eich galluedd, rhaid gofyn am eich cydsyniad er mwyn gweld a ydych yn dymuno parhau i gael ECT.
Rhwydwaith gwirfoddol o wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yw’r Gwasanaeth Achredu ECT (ECTAS), ac mae’n hyrwyddo arferion gorau ar gyfer triniaethau ECT. Mae’r rhwydwaith yn helpu i wella ansawdd y gofal trwy gynorthwyo clinigau ECT i gyrraedd cyfres o safonau cytunedig, megis safonau’n ymwneud ? diogelwch a materion cyfreithiol.
Mae yn cyflawni swyddogaeth debyg ac mae’n cwmpasu pob gwasanaeth ECT yn yr Alban.
Nid yw ECTAS na SEAN yn rheoleiddwyr statudol ar wasanaethau ECT. Mae’r cyfrifoldeb hwn yn syrthio ar Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yng Nghymru, y Comisiwn Ansawdd Gofal yn Lloegr, Gwella Gofal Iechyd yr Alban yn yr Alban, a’r Awdurdod Rheoleiddio a Gwella Ansawdd yng Ngogledd Iwerddon.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth trwy ddilyn y dolenni isod:
Deunyddiau darllen pellach
Cynhyrchwyd yr wybodaeth hon gan Fwrdd Golygyddol Ymgysylltu ?’r Cyhoedd Coleg Brenhinol y Seiciatryddion. Mae’n adlewyrchu’r dystiolaeth orau a oedd ar gael ar yr adeg yr ysgrifennwyd y ddogfen.
Cyfraniadau ac adolygiad arbenigol: Y Pwyllgor ar ECT a Thriniaethau Cysylltiedig
Arbenigwr trwy brofiad: Lucy Jenkinson
Mae geirdaon llawn ar gael ar gais.
This translation was produced by Bla Translations (Aug 2026)