Mae CBSeic Cymru wedi croesawu cymeradwyaeth unfrydol gan Aelodau’r Senedd, yn dilyn pryderon difrifol ynghylch gallu’r Tribiwnlys i weithredu’n effeithiol ac o fewn amserlenni statudol.
Cyflwynwyd y Bil Brys ar ddydd Mawrth 13 Ionawr ar ?l i fater technegol gael ei nodi yn Neddf Iechyd Meddwl 1983 a olygai na allai aelodau meddygol heb drwydded i ymarfer parhau i wrando ar achosion. Ar ?l nodi'r mater, penderfynodd Llywydd y Tribiwnlys na allai'r aelodau hyn eistedd ar baneli mwyach.
Er yn gyfreithiol angenrheidiol, cafodd y penderfyniad hwn effaith andwyol, gan leihau nifer yr aelodau meddygol cymwys yn sylweddol o 43 i 19 a rhoi gallu'r Tribiwnlys i fodloni ei amseroedd gwrandawiadau statudol mewn perygl difrifol.
Felly, mae'r Bil yn diwygio Deddf Iechyd Meddwl 1983 i alluogi meddygon sydd wedi cofrestru gyda'r Cyngor Meddygol Cyffredinol ond sydd ddim yn dal trwydded i ymarfer i eistedd fel aelodau meddygol. Mae'r ddeddfwriaeth hefyd yn gymwys yn ?l-weithredol er mwyn sicrhau sicrwydd cyfreithiol mewn perthynas ? phenderfyniadau blaenorol y Tribiwnlys.
Cynhaliwyd craffu ar y Bil dros 48 awr, gyda phob cam wedi'i gwblhau erbyn dydd Mercher 14 Ionawr. Cefnogodd CBSeic Cymru y Bil, gan gydnabod bod angen camau deddfwriaethol prydlon i ddiogelu diogelwch cleifion a gweithrediad effeithiol gwasanaethau iechyd meddwl.
Roeddem hefyd yn falch o gefnogi gwelliant llwyddiannus sy'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu ac adrodd o fewn 12 mis ar drefniadau hyfforddiant ar gyfer aelodau meddygol y Tribiwnlys nad ydynt yn dal trwyddedau i ymarfer.
Derbyniodd y Bil Gydsyniad Brenhinol ar 21 Ionawr a daeth i rym y diwrnod canlynol, gan adfer nifer yr aelodau meddygol cymwys sy'n gallu eistedd ar achosion.
Er gwaethaf ein cefnogaeth i'r Bil, mae CBSeic Cymru wedi mynegi pryderon ehangach ynghylch gweithrediad Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru, yn enwedig mewn perthynas ? phrosesau gwneud penderfyniadau a diffyg ymgysylltiad ?'r gweithlu seiciatrig.
Mae angen brys hefyd i gynyddu nifer y seiciatryddion yng Nghymru a sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi'n briodol, gan gynnwys drwy gynllun gweithlu pwrpasol ar gyfer seiciatreg.
Mae CBSeic Cymru yn ddiolchgar i , a am godi’r materion hyn yn ystod craffu ar y Bil, ac edrychwn ymlaen at ymgysylltu’n adeiladol ? phartneriaid perthnasol i fynd i’r afael ? nhw.
Dywedodd yr Athro Alka Ahuja MBE, Cadeirydd CBSeic Cymru:
“Mae cymeradwyo’r Bil Brys hwn wedi bod yn hanfodol i ddiogelu hawliau cleifion ac uniondeb y Tribiwnlys. Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru ac Aelodau’r Senedd am weithredu’n gyflym i fynd i’r afael ?’r risgiau a nodwyd.
“Pan na ellir cynnal gwrandawiadau mewn modd amserol, gall pobl sy’n cael eu cadw orfod aros yn hirach nag sydd angen i’w hachosion gael eu hadolygu. Mae hyn yn achosi gofid, yn oedi adferiad, ac yn tanseilio hyder yn y system iechyd meddwl.
“Gyda Chydsyniad Brenhinol wedi’i roi, mae adfer gallu gweithredol y Tribiwnlys yn gyflym yn hanfodol i ddiogelu diogelwch cleifion, sicrhau penderfyniadau amserol, a chynnal safonau clinigol a chyfreithiol uchel. Rhaid rhoi sylw dyledus i fregusrwydd capasiti presennol y gweithlu seiciatreg wrth symud ymlaen.”
For further information, please contact:
- Email: dafydd.huw@rcpsych.ac.uk
- Web: /wales
- Contact Name: Dafydd Huw
- Twitter:
- Out-of-hours contact number: 02922 33 1080